Dyma rai awgrymiadau y gallech CHI eu gwneud eleni...
○ Trefnwch Siôn Corn Cudd lleol, mae pawb yn hoffi anrheg.
○ Cyfnewidiwch rifau ffôn gyda chymdogion a phobl leol ac arhoswch mewn cysylltiad gyda’ch gilydd. Edrychwch ar ôl eich gilydd.
○ Cysylltwch â’ch Banc Bwyd lleol i weld sut fedrwch helpu.
○ Gwirfoddolwch yn eich cymuned.
○ Trefnwch sesiwn canu carolau y tu allan er mwyn codi gwên.
○ Lliwiwch ein haddurniadau ffenstr neu anfonwch nhw at rywun er mwyn rhannu ychydig o lawenydd.
○ Rhowch addurniadau y tu allan er mwyn i’ch cymdogaeth leol eu mwynhau, neu cynigwch roi addurniadau y tu allan ar ran cymydog.
○ Cynigwch help llaw i gymydog. Mae pethau bychan yn gwneud gwahaniaeth mawr.
○ Cysylltwch ag eraill ar Zoom am bryd o fwyd, cwis neu sgwrs fach.
○ Cadwch jar o garedigrwydd, ac ychwanegwch nodyn am bob dim rydych yn ddiolchgar amdano ac unrhyw syniadau neu weithredoedd o garedigrwydd.
...a chofiwch rannnu eich Garedigrwydd gyda ni!
Chwilio am ffyrdd o ddiddanu chi'ch hun a'r plant y Nadolig hwn?
Dyma 25 taflen lliwio i'w mwynhau. Rhannwch garedigrwydd dros yr Wŷl
Calendr Adfent Cysylltu â Charedigrwydd
Mae ein Calendr Adfent Digidol yn fyw ar Facebook. Byddwn yn rhyddhau fideo newydd yn ddyddiol wrth arwain at y Nadolig. 25 stori twymgalon o garedigrwydd. Mwynhewch!